
Mae'r ddwy ddeiseb ganlynol ar ddeintyddiaeth y GIG i'w hystyried:
Rhif y ddeiseb: P-06-1551
Teitl y ddeiseb: Atal newidiadau niweidiol Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal y newidiadau arfaethedig i wasanaethau deintyddol y GIG a fydd yn effeithio'n sylweddol ar fynediad at ofal, yn enwedig i bobl ag anableddau, pobl â chyflyrau iechyd meddwl, ac unigolion sydd ag ofn deintyddion.
Mae'r newidiadau hyn yn arwain at risg o nifer lai o apwyntiadau ar gael, cynyddu amseroedd aros, a rhoi mwy o bwysau ar bractisau deintyddol sydd eisoes yn cael trafferth bodloni'r galw. Mae llawer o bobl ag anableddau neu anghenion cymhleth eisoes yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at ofal deintyddol - gan gynnwys diffyg hygyrchedd corfforol, gorlwytho synhwyraidd, anawsterau cyfathrebu, a gorbryder.
Bydd diwygio'r system heb ymgynghori â chleifion, a heb gefnogaeth gref i gleifion, yn gwaethygu'r problemau hyn. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y newidiadau hyn ac yn hytrach buddsoddi mewn sicrhau bod deintyddiaeth y GIG yn fwy hygyrch, cynhwysol ac ymatebol i anghenion cleifion sy'n agored i niwed.
Rhif y ddeiseb: P-06-1557
Teitl y ddeiseb: Cyflwyno triniaeth ddeintyddol warantedig y GIG i boblogaeth Cymru
Geiriad y ddeiseb:
Sicrhau bod triniaeth ddeintyddol y GIG ar gael i holl breswylwyr Cymru.
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod triniaeth ddeintyddol y GIG ar gael drwy gydol Cymru, boed a gaiff ei darparu gan un o ddeintyddion y GIG neu wasanaeth o’r sector preifat ar yr un lefel o ffioedd.
Mae'r testun uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ymchwiliad i ddeintyddiaeth a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Chwefror 2023. Mewn erthygl gan ymchwil y Senedd amlinellwyd rhai o'r problemau o ran cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru bryd hynny. Ym mis Hydref 2024, darparodd Llywodraeth Cymru ddiweddariadar y camau yr oedd wedi’u cymryd mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor.
Wedi i’r Pwyllgor alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried un rhestr aros ganolog i Gymru, cyflwynwyd Porth Mynediad Deintyddol (“y Porth”) digidol ar gyfer Cymru gyfan ym mis Chwefror 2025. Gall pobl ei ddefnyddio i gofrestru eu diddordeb mewn derbyn gofal deintyddol gan y GIG. Yn wreiddiol, nid oedd modd i unigolyn wneud cais trwy’r Porth os oedd wedi cael triniaeth ddeintyddol reolaidd y GIG yn ystod y 4 blynedd diwethaf, ond cafodd y gofyniad hwn ei ddileu ym mis Mehefin 2025.
Mae llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru at y Pwyllgor Deisebau (5 Ionawr 2026) yn tynnu sylw at y ffaith bod y Porth yn anelu at roi darlun clir i fyrddau iechyd o'r angen sy’n bodoli yn eu hardaloedd nhw a'u galluogi i reoli sut y caiff pobl eu neilltuo i bractisau deintyddol fel y daw lleoedd ar gael. Wrth gofrestru gyda'r Porth, gall pobl nodi pa mor bell maen nhw’n fodlon neu’n gallu teithio i weld deintydd y GIG.
Mae gwybodaeth am gontract presennol gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG a diwygiadau cysylltiedig wedi'i nodi mewn erthygl ar ddatblygiadau ym maes deintyddiaeth y GIG yng Nghymru gan Ymchwil y Senedd.
Cynhaliwyd trafodaethau teirochrog rhwng mis Medi 2023 a mis Hydref 2024 rhwng Llywodraeth Cymru, y GIG a Phwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru i ddylunio a datblygu contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol newydd.
Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 18 Mawrth 2025, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (yr Ysgrifennydd Cabinet) gontract arfaethedig newydd ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG yng Nghymru. Nod y contract newydd yw gweithredu system sy’n seiliedig ar atal, a darparu triniaeth ddeintyddol ar sail risg ac anghenion, sy’n golygu na fydd cleifion yn cael eu hadalw’n awtomatig bob chwe mis am archwiliad arferol mwyach.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y contract newydd arfaethedig rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2025 ac roedd y cynigion yn cynnwys:
Ar 23 Medi 2025, cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, ac yn y Cyfarfod Llawn, nododd yr Ysgrifennydd Cabinet newidiadau i'r contract newydd arfaethedig.
Roedd y ddogfen ymgynghori wreiddiol yn cynnig y byddai cleifion yn cael eu neilltuo i bractis deintyddol trwy'r Porth. Gallai hyn arwain at gleifion yn cael eu hanfon at wahanol bractisau yn eu hardal leol yn dibynnu ar eu statws adalw a’r capasiti yn ardal y bwrdd iechyd.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet na fydd pobl sydd ag iechyd geneuol da yn cael eu hatgyfeirio’n ôl i’r Porth. Dywedodd mai’r nod yw y bydd hyn yn helpu i gynnal perthynas claf â’i ddeintydd, ac yn galluogi monitro iechyd geneuol claf yn seiliedig ar risg ac angen.
Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd at ddatblygu llwybr anghenion sylweddol ar gyfer pobl a allai fod angen cymorth ychwanegol. Mae llythyr Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Deisebau yn nodi y bydd pobl sydd yn agored i niwed ac sydd yn methu â chael mynediad at wasanaethau deintyddol cyffredinol yn parhau i gael eu gweld gan y gwasanaeth deintyddol cymunedol.
Mae newidiadau eraill a ddaeth yn sgil yr ymgynghoriad yn cynnwys cynyddu’r taliadau a wneir gan y GIG i ddeintyddion, a gohirio cyflwyno system dalu ar-lein tan fis Ebrill 2027.
Bwriedir i'r contract newydd ddod i rym ym mis Ebrill 2026 a chaiff ei weithredu drwy ddeddfwriaeth a chyfarwyddydau. Ar adeg ysgrifennu hwn, nid oedd y rheoliadau perthnasol wedi'u gosod.
Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru wedi codi nifer o bryderon ynghylch contractau deintyddol y GIG a'r diwygiadau arfaethedig. Mae ei gwefan yn cynnwys blogiau ac erthyglau newyddion sy'n nodi'r pryderon hyn.
Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 18 Mawrth 2025 a 23 Medi 2025 cododd yr Aelodau faterion yn cynnwys mynediad at ddeintyddiaeth a sicrhau darpariaeth ddeintyddol ledled Cymru, a manylion y contract newydd arfaethedig.
Yn ôl datganiad ystadegol diweddaraf Llywodraeth Cymru, (a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025), mae canran y plant sy’n cael eu trin gan ddeintydd y GIG wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, tra bod cyfraddau trin oedolion wedi aros yn sefydlog ar y cyfan dros y 18 mis diwethaf.
Yn y 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2025, cafodd 48.2% o blant a oedd yn byw yng Nghymru driniaeth ddeintyddol gan y GIG. Cafodd 40.1% o oedolion driniaeth yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2025.
Mae’r ffigurau hyn yn dangos faint o driniaeth a ddarparwyd, nid nifer y bobl yr oedd angen gofal arnynt neu nad oeddent yn gallu cael mynediad ato, felly dim ond darlun rhannol o’r mynediad y maent yn ei ddarparu
Mae llythyr Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Deisebau yn nodi, ers mis Ebrill 2022, pan gafodd amrywiad ei gyflwyno i'r contract presennol, fod bron i 530,000 o gleifion newydd wedi derbyn cwrs llawn o driniaeth; a bod 214,000 o apwyntiadau wedi'u darparu i gleifion newydd er mwyn iddynt gael gofal brys.
Er bod y ffigurau hyn yn awgrymu capasiti ar gyfer cleifion newydd, nododd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth bryderon BDA Cymru y gallai nod y contract diwygiedig o ryddhau capasiti i ddarparu apwyntiadau i gleifion newydd ddod ar draul cleifion presennol. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fonitro’r apwyntiadau a ddarperir i gleifion i sicrhau bod y cydbwysedd cywir yn cael ei daro.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.